BEN NEVIS
(Fort William, Yr Alban)

Cerddwch ar hyd y llwybrau eiconig ar y mynydd uchaf yn Ynysoedd Prydain

Window on Wildlife, RSPB Belfast
(Belfast, Gogledd Iwerddon)

Ymlaciwch o fewn hafan bywyd gwyllt Belfast ei hunan, sy’n cynnig golygfeydd syfrdanol dros Lyn Belfast

Bae Morecambe
(Morecambe, Lloegr)

Profwch arfordir trawiadol Morcambe o Lwybr Seiclo 81 milltir y Bae

Hainault Park
(Hainault, Lloegr)

Chwiliwch am bryfed a bywyd gwyllt arall yng Nghoedwig hynafol Hainault

Rainham Marshes, RSPB
(Havering, Lloegr)

Gwyliwch y gornchwiglen yn nythu a heidiau o adar gaeafu ar y corsydd hynafol hyn

Cwm Elan
(Rhaeadr Gwy, Cymru)

Ewch i seiclo ar hyd Llwybr syfrdanol Cwm Elan

Minsmere, RSPB
(Saxmundham, Lloegr)

Archwiliwch y coedwigoedd, arfordir a gwlybtiroedd i chwilio am amrywiaeth anhygoel o fywyd gwyllt

Arfordir Northumberland
(Gogledd Ddwyrain Lloegr)

Profwch awel y môr ar bromenadau bywiog arfordir Northumberland

Great Fen
(Swydd Caergrawnt, Lloegr)

Archwiliwch gwlybtiroedd sy’n datblygu yn y Great Fen

Castell a Gerddi Hillsborough
(Hillsborough, Gogledd Iwerddon)

Treuliwch amser yng Nghastell Hillsborough ac archwilio 100 erw o erddi godidog

Brede High Woods
(High Weald, Lloegr)

Gallwch ymgolli yng nghoetir hynafol Brede High Woods yn Sussex

Forsinard Flows, RSPB
(Sutherland, Yr Alban)

Gallwch ddianc o’r cyfan o fewn y dirwedd hon o dir mawn garw ac anhygoel

Fingle Woods
(Exeter, Lloegr)

Crwydrwch trwy 825 erw o goetiroedd a leolir ar gyrion Parc Cenedlaethol Dartmoor

Tame Valley
(Ger Birmingham, Lloegr)

Camwch ar y llwyfan gwylio i arsylwi bywyd gwyllt Tame Wetlands

Cymoedd Antrim
(Antrim, Gogledd Iwerddon)

Mwynhewch y dreftadaeth gyfoethog fel y byddwch yn cerdded ynghanol Cymoedd Antrim

Windermere Jetty Museum
(Windermere, Lloegr)

Ewch ati i archebu taith unigryw ar gwch treftadaeth yn y Windermere Jetty Museum ar lan y llyn

Peak District
(Dwyrain Canolbarth Lloegr)

Gallwch ddianc ymysg llwybrau enwog y Peak District

Loch Lomond a Pharc Cenedlaethol Y Trossachs
(Loch Lomond, Yr Alban)

Ewch i feicio mynydd, cerdded neu wersylla yn y gwyllt ar fryniau a chymoedd y Trossachs. Photo © Euan Myles

Bempton Cliffs, RSPB
(Bempton, Lloegr)

Gallwch weld hanner miliwn o adar y môr, gan gynnwys adar y pâl, ar glogwynni arfordirol calch trawiadol

Ynys Wyth
(Ynys Wyth, Lloegr)

Archwiliwch dirweddau godidog ynys alltraeth fwyaf Lloegr

Carneddau, Eryri
(Eryri, Cymru)

Ewch ati i gerdded, seiclo ac archwilio yn y Carneddau, Eryri

Sandwell Valley, RSPB
(West Bromwich, Lloegr)

Ymlaciwch a darganfod bywyd gwyllt tra’n archwilio coetiroedd, dolydd blodau gwyllt, llynnoedd a phyllau

Tynemouth Volunteer Life Brigade Watch House Museum
(Tynemouth, Lloegr)

Darganfyddwch arteffactau morwrol o frigâd bywyd gwirfoddol cyntaf y byd

Fell Foot
(Windermere, Lloegr)

Mae’r parc yma sy’n addas i deuluoedd ar lan llyn Windermere yn berffaith ar gyfer cael picnic, cerdded a mynd ar gwch

Arne, RSPB
(Wareham, Lloegr)

Ewch ati i ddarganfod y dirwedd eiconig ac anghyffredin o rostiroedd ar Benrhyn Arne yn Harbwr Poole

English | Cymraeg
Canllaw’r Loteri Genedlaethol
i 25 o Anturiaethau Anhygoel yn yr Awyr Agored

O arfordiroedd garw i lwybrau troed mynyddig, i warchodfeydd natur, parciau a choedwigoedd trawiadol, mae’r Loteri Genedlaethol, dros y 25 mlynedd diwethaf, wedi buddsoddi mwy na hanner biliwn o bunnoedd i’n treftadaeth naturiol ac wedi cyflwyno miloedd o gyfleoedd i bobl gael mynediad at yr awyr agored gwych.

Gyda chymaint o leoedd i ddewis ohonynt, rydym wedi llunio canllaw i 25 o Anturiaethau Anhygoel yn yr Awyr Agored o amgylch y DU, gyda phob un ohonynt wedi derbyn arian, diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol. Felly os ydych yn cael trafferth dewis eich antur nesaf yn yr awyr agored, edrychwch ar hyn!

Adar
Pryfaid
Coed
Llyn
Seiclo
Blodau
Môr
Cwch
Nofio
Cerdded a heicio
Dim mynediad i’r anabl
   

- YR ALBAN -

- CYMRU -

- LLOEGR -

- GOGLEDD IWERDDON -